Y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd

 

Cofnodion

 

 

Statws: Wedi’u cymeradwyo gan y Cyd-gadeiryddion

 

Dyddiad y cyfarfod

11 Mawrth 2014, 18.00-20.00, y Pierhead, Bae Caerdydd

 

Yn bresennol

Mark Isherwood AC (Ceidwadwyr Cymreig – Cyd-gadeirydd), Rebecca Evans AC (Cyd-gadeirydd – Llafur Cymru), Jeff Cuthbert AC (y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi – yn bresennol ar gyfer rhan o’r cyfarfod), Paul Swann (Anabledd Cymru – Ysgrifennydd), Rhian Davies (Anabledd Cymru), Fiona McDonald (Anabledd Cymru), Owen Williams (Vision in Wales), Rebecca Phillips (Vision in Wales – cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd), Tracey Good (Canolfan GIG ar gyfer Cydraddoldeb a Hawliau Dynol), Andrea Wayman (Asiantaeth cyflogaeth â chymorth Elite), Dawn Gullis (Mencap Cymru), Wayne Crocker (Mencap Cymru), Will Evans (livingwithaspergers.co.uk), Deb Morgan (Canolfan Byd Gwaith), Andrew Davies (Working Links), Cherry Stewart (BIP Caerdydd a’r Fro) ac aelodau allanol.

Ymddiheuriadau

 

1.

Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd MI bawb i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd i drafod materion ynghylch cyflogaeth. Roedd y digwyddiad yn cynnwys Anerchiad Gweinidogol gan Jeff Cuthbert AC (y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi) ynghyd â chyflwyniadau gan gynrychiolwyr o’r Sector Cyflogaeth a’r Trydydd Sector.

2.

Cyflwyniadau:

 

Prosiect Galluogi - Cyflwynwyd y prosiect gan Tracey Good (Canolfan GIG ar gyfer Cydraddoldeb a Hawliau Dynol) ac Andrea Wayman (Asiantaeth cyflogaeth â chymorth Elite)

 

Cafodd fideo ei chwarae i ddangos prosiect interniaeth rhwng y Bwrdd Iechyd ac Elite, yr asiantaeth cyflogaeth â chymorth.

 

 

Profiadau personol o chwilio am waith – Cafwyd cyflwyniadau gan Owen Williams, Rheolwr Cyffredinol Vision in Wales, Dawn Gullis, Swyddog Materion Allanol Mencap Cymru a Will Evans, Sylfaenydd livingwithaspergers.co.uk

 

Owen Williams – Vision in Wales

Siaradodd OW am y rhwystrau a wynebir gan bobl sydd wedi colli eu golwg sy’n chwilio am waith. Canolbwyntiodd ar astudiaethau achos o unigolion a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sydd â nam ar y golwg ledled Cymru. Trafodwyd rhai enghreifftiau mewn perthynas â’r cynllun Mynediad i Waith. Pwysleisiodd bod Mynediad i Waith yn gynllun da, ond bod angen ei wella. Roedd rhai o’r profiadau a wynebwyd gan bobl sydd wedi colli eu golwg o ran Mynediad i Waith yn cynnwys oedi cyn i gynghorydd gael ei ddyrannu iddynt a diffyg gwybodaeth am eu hanghenion yn cael ei rhoi i’r cynghorydd. Aeth OW ymlaen i rannu rhai o’r astudiaethau achos. Pwysleisiodd OW y meysydd allweddol, a oedd yn cynnwys yr angen i godi ymwybyddiaeth ynghylch nam ar y golwg ymhlith staff, darparu gwybodaeth hygyrch a bod asesiadau’n cael eu cynnig fel mater o hawl.

 

Dawn Gullis – Mencap Cymru

Siaradodd DG am ei phrofiadau o gyflogaeth fel person ag anawsterau dysgu.  Rhannodd DG ei thaith o swydd lanhau i rolau gwirfoddoli ac ymlaen i fod yn Swyddog Materion Allanol ar gyfer Mencap Cymru.

 

 

 

Will Evans – livingwithaspergers.co.uk

Cyflwynodd WE fideo wedi’i animeiddio am ei brofiad o fyw gyda Syndrom Asperger, a gynhyrchwyd gan fyfyriwr cyfryngau cymdeithasol. Yn dilyn y fideo, siaradodd WE am waith livingwithingaspergers.co.uk a’r cymorth a gafodd gan Mynediad i Waith i’w sefydlu.

 

 

Cyflogaeth yn y Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw’n Annibynnol – Jeff Cuthbert AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

 

Soniodd y Gweinidog am dri phrif bwynt. Siaradodd am y cefndir i’r Fframwaith a pham bod cyflogaeth wedi cael ei nodi’n flaenoriaeth allweddol, yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud a sut y mae’n gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a Canolfan Byd Gwaith yng Nghymru. Pwysleisiodd fod cyflogaeth yn flaenoriaeth allweddol gan ei bod yn hybu annibyniaeth, yn cynyddu hyder, iechyd a lles ac yn cynnig ffordd allan o dlodi. Tynnodd sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion cyflogaeth a wynebir gan bobl anabl. Roedd enghreifftiau yn cynnwys gweithio gyda sefydliadau anabledd er mwyn helpu i sicrhau bod cymaint â phosibl o bobl ag anableddau yn gallu defnyddio technoleg ddigidol, a sicrhau cyllid ar gyfer cymorth dysgu ychwanegol ar gyfer opsiynau dysgu seiliedig ar waith ôl-16 i sicrhau bod cyfranogwyr ag anableddau yn cael eu cefnogi i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt. Siaradodd hefyd am ei brofiad o Ddyslecsia. Tynnodd y Gweinidog sylw at y rhaglen ‘Yn Awyddus i Weithio’, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Canolfan Byd Gwaith, sydd, ers 2008, wedi cynorthwyo tua 12,500 o bobl i gael gwaith, llawer ohonynt yn bobl ag anableddau. Gorffennodd drwy ychwanegu, er bod llawer o waith i’w wneud os yw pobl anabl yn mynd i allu cystadlu ar delerau cyfartal yn y farchnad swyddi, fod Llywodraeth Cymru, serch hynny, yn cymryd camau cadarnhaol mewn llawer o feysydd. Mae’r Fframwaith yn nodi nad gweithredu ar arferion addysg a chyflogaeth yn unig sydd angen ei wneud i wella rhagolygon cyflogaeth ar gyfer pobl ag anableddau, ond sicrhau hefyd mynediad at adeiladau a thrafnidiaeth gyhoeddus. Bydd y camau sy’n cael eu cymryd yn y meysydd hyn gyda’r Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw’n Annibynnol hefyd yn cyfrannu at yr agenda gyflogaeth.

 

 

Hyrwyddo Mynediad at Waith – Deb Morgan, Ymgynghorydd Anableddau Canolfan Byd Gwaith.

 

Siaradodd DM am yr hyn y gall Canolfan Byd Gwaith ei gynnig i bobl ag anableddau. Mae’r gwasanaethau a gynigir ar hyn o bryd yn cynnwys Ymgynghorwyr Cyflogaeth i Bobl ag Anableddau, Ymgynghorwyr Cymorth Cyflogaeth, rhaglen ‘Yn Awyddus i Weithio’ i’r rhai sy’n byw mewn ardal sydd wedi’i chynnwys ynddi, rhaglen ‘Cael Prydain i Weithio’ a’r Contract Ieuenctid i bobl ifanc 18-24 oed, sy’n cynnwys cymhellion cyflog, profiad gwaith gwirfoddol a phrentisiaethau, tîm seicoleg gwaith a Mynediad i Waith. Mae rheolwyr partneriaeth hefyd yn gweithio gyda phartneriaid mewn cymunedau lleol mewn ardaloedd o dlodi i gynnig cymorth penodol wedi’i deilwra nad yw, o bosibl, wedi’i gynnwys yn y pecyn a gynigir gan Canolfan Byd Gwaith. Mae enghreifftiau o le mae hyn wedi gweithio’n dda yn cynnwys y prosiect ‘Get Well, Get Work’ ym Merthyr. Mae’r prosiect wedi’i ariannu drwy grant, ac mae’n cynnwys Gweithwyr Iechyd Cymunedol a Canolfan Byd Gwaith yn ymgysylltu â phobl i fynd i’r afael â materion ynghylch cymhelliant a hunan hyder i wella cyfleoedd bywyd ac, yn y pendraw, cymryd y cam at waith. Nododd DM enghraifft arall sy’n cynnwys Canolfan Byd Gwaith yn gweithio gyda chyflogwyr mawr i gynnig lleoliadau gwaith ar gyfer cwsmeriaid â chyflyrau iechyd. Tynnodd DM sylw at y ddogfen ‘Disability and Health Employment Strategy – the Discussion So Far’. Datblygwyd y ddogfen hon gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, a gellir cael mynediad ati drwy http://bit.ly/DWPdisemp. Nododd DM fod y grŵp yn awyddus i glywed gan arbenigydd Mynediad i Waith a chynigiodd gymryd unrhyw gwestiynau neu adborth gyda hi.

 

 

Llwyddiannau a heriau o gyflwyno’r Rhaglen Waith yng Nghymru – Andrew Davies, Working Links

 

Siaradodd AD am Working Links. Mae gan y sefydliad dri pherchennog, sef elusen (Mission Australia), sefydliad masnachol (Cap Gemini) a rhan sy’n eiddo i Lywodraeth y DU drwy Manpower. Mae’r rhaglen waith yn anelu at symud pobl ddi-waith at gyflogaeth gynaliadwy a pharhau i’w cefnogi yn ystod eu cyflogaeth. Maent yn gwneud hyn drwy gynnig ystod eang o gyfleoedd pwrpasol yn seiliedig ar eu hanghenion unigol. Mae gan tua 17% o’u cyfeiriadau anghenion iechyd cymhleth sydd, mewn rhai achosion, yn anghenion lluosog. Mae lefel uchel o bobl ag anableddau sydd wedi bod drwy asesiadau gallu i weithio yn ddiweddar yn cael eu cyfeirio atynt. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae 70% o’r atgyfeiriadau wedi dod o bobl sydd ar fudd-daliadau cysylltiedig ag anableddau ac sydd wedi’u dynodi’n anaddas ar gyfer gwaith am o leiaf 12 mis.

 

 

Gwella mynediad i gyflogaeth ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl – Cherry Stewart, Therapydd Galwedigaethol Iechyd Meddwl, BIP Caerdydd a’r Fro.

 

Cyflwynodd CS y prosiect. Mae’n bartneriaeth rhwng Therapyddion Galwedigaethol Iechyd Meddwl a Canolfan Byd Gwaith. Aeth Therapyddion Galwedigaethol Iechyd Meddwl o Fwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a’r Fro ar secondiad i Canolfan Byd Gwaith i weithio ar y rheng flaen gyda Chynghorwyr Canolfan Byd Gwaith yn gweithio gydag unigolion â chyflyrau iechyd meddwl er mwyn goresgyn y rhwystrau i gyflogaeth. Wedyn, rhannodd y tri Therapydd Galwedigaethol eu profiadau o weithio gydag unigolion â chyflyrau iechyd meddwl, gan dynnu sylw at y rhwystrau a wynebir gan yr unigolion hynny a sut y cawsant eu goresgyn.  

 

Nid oedd digon o amser i’r grŵp drafod y mater hwn yn llawn na gofyn cwestiynau. Fodd bynnag, cafodd un pwynt ei dynnu at sylw PS, ac fe’i rhannodd gyda’r grŵp. Y pwynt hwnnw oedd bod pobl fyddar yn colli eu swyddi, neu’n methu â chael gwaith, ar sail yr hyn a elwir yn faterion "iechyd a diogelwch". Anogodd PS Michelle Fowler a’i chydweithwyr i ddarparu adroddiad byr, y byddai PS wedyn yn ei anfon ymlaen at ddau Gyd-gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ac at Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru.

 

Anogodd MI aelodau’r grŵp i anfon unrhyw gwestiynau sydd ganddynt ar gyfer unrhyw un o’r siaradwyr ato, a byddai’n sicrhau eu bod yn cyrraedd y person neu’r sefydliad perthnasol.

 

Diolchodd MI i PS am drefnu’r digwyddiad ac i bawb am ddod. Gyda hynny, daeth y cyfarfod i ben.